SL(5)147 - Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â thrwyddedu tynnu dŵr gan rai categorïau o bersonau, yn sgil diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) i Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57) (“Deddf 1991”). Mae’r diwygiadau hynny, sy’n dod i rym ar yr un dyddiad â’r Rheoliadau hyn, yn cyfyngu neu’n dileu eithriadau penodol o’r cyfyngiad ar dynnu dŵr yn Neddf 1991.
Y weithdrefn
Negyddol
Gwaith craffu technegol
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig (Rheol Sefydlog 21.2 (ix). Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau, sef Offeryn Statudol cyfansawdd, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd. Felly, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol [gan Weinidogion Cymru] i’r offerynnau hyn gael eu gwneud yn ddwyieithog.
2. Mae rheoliad 5(2) yn cyfeirio at baragraff 2(3)(iv) o Atodlen 2 i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu Dŵr a’i Gronni) 2006. Dylai hyn gyfeirio at baragraff 2(3)(b)(iv). Gan fod y bwriad yn glir, byddai wedi bod yn briodol cywiro hyn wrth ei gyhoeddi, pe na bai’r Rheoliadau eisoes wedi’u cyhoeddi. (Rheol Sefydlog 21.2(vi))
Craffu ar y rhinweddau
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
3. Mae troednodyn i reoliad 4(1) yn cyfeirio’r darllenydd at adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ar gyfer y diffiniad o “asiantaeth briodol”. Gan mai’r esboniad yw Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Chymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â Lloegr, byddai wedi bod yn fwy defnyddiol dweud hynny.
Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
4. Mae’r Rheoliadau yn cynnwys cyfeiriadau at ddosbarthiadau a diffiniad yng Nghyfarwyddeb 2000/60/EC o Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr. Er y byddant yn parhau i weithio yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, bydd angen adolygu eu priodoldeb. Bydd hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â dŵr, lle, fel yn yr achos presennol, mae angen sefyllfa gyffredin ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddai’n briodol i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio’r cyfeiriadau gan ddefnyddio’r pwerau y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Tachwedd 2017